Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 17 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08:30 - 12:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Simon Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gareth Coles, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Julia Hill, Llywodraeth Cymru Anthony Hunt Chris Jones, Gofal a Thrwsio Geoff Lang, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Fiona Leadbitter, Llywodraeth Cymru Jon Rae, CLLC David Robinson, Community Links Vanessa Young, Director of Resources, WLGA |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
3.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, am y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, gan nodi pryderon y Pwyllgor ynghylch y broses.
4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Community Links a Gofal a Thrwsio
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Coles, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Chris Jones, Gofal a Thrwsio, a David Robinson, Community Links, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.
4.2 Cytunodd Chris Jones (Gofal a Thrwsio) i anfon nodyn ynghylch sut yr aed ati i bennu’r cyfrifiad ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Brys.
4.3 Cytunodd Gareth Coles (CGGC) i anfon nodyn yn cynnwys enghreifftiau o brosiectau gwariant ataliol yn y trydydd sector.
4.4 Cytunodd David Robinson (Community Links) i anfon manylion adroddiadau sydd wedi edrych ar brosiectau gwariant ataliol yn y trydydd sector.
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Anthony Hunt, Aelod Cabinet dros Gyllid, Cyngor Sir Torfaen a Dirprwy Lefarydd CLlLC ar Gyllid, Ness Young, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.
5.2 Cytunodd CLlLC i anfon nodyn i’r Pwyllgor yn cynnwys enghreifftiau o’r arfer gorau o ran cydgynhrychu.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
8.1 Aeth yr Aelodau ati i drafod y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd yr oeddent yn dymuno eu trafod gyda’r Gweinidog Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 pan fyddai’n dychwelyd i’r cyfrafod Pwyllgor ar 23 Hydref.